Alert icon
We're changing our privacy policy. This stuff matters.  Learn more  Dismiss

Y miliynfed ymwelydd â'r Senedd

Loading...

Sign in or sign up now!
Alert icon
Upgrade to the latest Flash Player for improved playback performance. Upgrade now or more info.
38 views
Loading...
Alert icon
Sign in or sign up now!
Alert icon

Uploaded by on Jan 23, 2012

www.cynulliadcymru.org

Mae'r Senedd, sef cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi croesawu ei miliynfed ymwelydd.

Cyfarchwyd Samantha Hailes o Caerdydd gan Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a chafodd dystysgrif a thaith o amgylch yr adeilad.

"Roeddwn yn hynod o falch o groesawu Samantha fel y miliynfed ymwelydd â'r Senedd," dywedodd Rosemary Butler.

"Ers ei hagor chwe blynedd yn ôl, mae'r Senedd wedi bod yn adeilad eiconig sy'n denu ymwelwyr ac edmygwyr o bob rhan o'r byd.

"Mae hygyrchedd, tryloywder a chynaliadwyedd wrth galon yr adeilad.

"Mae'r tair egwyddor hon wedi'u gweu i mewn i ddeunydd yr adeilad yn yr un modd ag y maent wedi'u gweu i mewn i waith y Cynulliad Cenedlaethol wrth gynrychioli pobl Cymru."

Mae'r Senedd, a gafodd ei hagor yn swyddogol gan EM y Frenhines ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006, yn un o adeiladau trawiadol datblygiad Bae Caerdydd ac mae'n adnabyddus ledled y byd.

Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan benseiri Rogers Stirk Harbour and Partners gyda'r bwriad o fod yn dryloyw a hygyrch i'r cyhoedd ond hefyd i fod yn un o adeiladau seneddol mwyaf ystyriol i'r amgylchedd yn y byd.

Category:

News & Politics

Tags:

License:

Standard YouTube License

  • likes, 0 dislikes

Link to this comment:

Share to:
see all

All Comments (0)

Sign In or Sign Up now to post a comment!
Loading...
Alert icon
0 / 00Unsaved Playlist Return to active list
    1. Your queue is empty. Add videos to your queue using this button:
      or sign in to load a different list.
    Loading...Loading...Saving...
    • Clear all videos from this list
    • Learn more