www.cynulliadcymru.org
Yr amgylchedd, mannau diogel i chwarae a chymdeithasu a phryderon ariannol ywr prif bethau syn poeni pobl ifanc yng Nghymru.
Holodd arolwg Chi syn bwysig! dros 2700 o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn gynharach eleni a chyhoeddir canlyniadaur arolwg heddiw.
Mae hefyd yn dangos bod materion fel cyfleusterau mewn ysgolion, parch gan ffrindiau ac oedolion, a bwytan iach hefyd yn uchel ym meddyliau plant a phobl ifanc.
Lansiwyd yr arolwg yn yr haf gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chafwyd bythau pleidleisio arbennig mewn digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ar Sioe Frenhinol.
All Comments