Dechrau Canu Dechrau Canmol 2008...
Tuag adeg y Pasg 2008 (neu 2009 - ys gwn i bellach pa un...) ces i'r cyfle i ddadlwytho'r rhaglen arbennig hon o safle archifau S4C, peth a fu'n bosibl bryd hynny.
Mynegai (fesul munud):
1. 00.00 - 02.30: Cyflwyniad gan Gwion Hallam ac eraill
2. 02.30 - 07.02: Capel Rhosllannerchcrugog - 'Arwelfa'. Arweinydd: Owain Arwel Hughes.
3. 07.02 - 08.55: Y Gerddi Botaneg, Llanarthne - Cerddoriaeth glasurol yn yr awyr agored gan gerddorfa fach anhysbys.
4. 08.55 - 14.28: Y Parchedig Dr. Owain Evans yn cyflwyno ei hoff emyn, 'Rhagwelodd y Proffwydi Mawr', a ganwyd yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.
5. 14.28 - 18.57: Sian James ym Maldwyn gyda'r Parti Cynlloi yn canu 'O Am Fywyd o Sancteiddio' gan Ann Griffiths. Datganiad eithriadol o hardd.
6. 18.57 - 20.30: 'Emyn i Gymru' a'r tim a fu'n gyfrifol am ei ddewis.
7. 20.30 - 24.45: Dewis y tim 'Emyn i Gymru' oedd 'Pantyfedwen' a ganwyd yn yr Afan Lido.
8. 24.45 - 28.00 Susan Williams, Caernarfon, yn trafod emynau'r 'Mawl Modern' cyn i ni glywed 'Diolch, Diolch, Iesu', un o emynau'r 'Cymanfa Plant' yn Rhosllannerchrugog.
9. 28.00 - 33.42: Cor o oedolion ifanc yn canu yn yr awyr agored gyda 'Capel Soar y Mynydd' yn gefnlen hyfryd iddyn nhw.
10. 33.42 - 42.00: Cian Hughes ac ei wraig, Megan, yn cofio eu cyfarfod yn Albania, eu priodas ac eu plant yng nghyd-destun eu ffydd cyn cyflwyno 'Manna' yn canu 'Yng Nghrist ei Hun Mae Ngobaith i'.
11. 42.00 - 45.00: Elin Fflur yn canu 'Rho i mi'r Hedd na Wyr y Byd Amdano' ym Mhafiliwn Eisteddfod Mon gerbron torf o aelodau Urdd Gobaith Cymru.
12. 45.00 - 47.20: Sue Roberts o'r Cylch Catholig yn cyflwyno 'Tu Yw'r Un sy'n Adnewyddu'.
13. 47.20 - 51.15: Dilys Davies yn cyflwyno plant ysgolion Cymraeg y Rhondda wrth iddyn nhw ganu 'Wele'n Sefyll Rhwng y Myrthwydd' ar ben Penrhys ac mewn neuadd.
Perfformiad penigamp o un o emynau mwyaf Ann Griffiths.
14. 51.15 - 55.00: Torf o bobl yng nghanol haf yn canu 'Dyma Gariad fel y Moroedd' ar y Promenad heulog yn Aberystwyth.
Cynnwys y darllediad eithriadol hwnnw oedd detholiad o raglenni 'Dechrau Canu Dechrau Canmol' yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
Trysorfa o ffydd ar gân a geir yma heb ots nac onibai.
Yn nes ymlaen my fyddaf i'n darparu mynegai i gynnwys y fideo hon.
Diolch - enwedig ar ol gweld cyn-gydweithiwr i fy nhad arno a fy farw yn 2009 - am argymell hwn iddo.
lleifior2 4 months ago
Mae fy nghalon yn curo'n gyflym ar glywed llais Sian James :)
3tangle3 9 months ago