Alert icon
We're changing our privacy policy. This stuff matters.  Learn more  Dismiss

Cyfleoedd newydd i astudio a dilyn gyrfa gyda'r heddlu

Loading...

Sign in or sign up now!
Alert icon
Upgrade to the latest Flash Player for improved playback performance. Upgrade now or more info.
635 views
Loading...
Alert icon
Sign in or sign up now!
Alert icon

Uploaded by on May 28, 2008

Mae cynllun ysgoloriaeth llwyddiannus sydd â'r nod o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg sy'n dilyn gyrfa gyda'r heddlu yn cael ei ymestyn gan Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol Bangor.
Am y tro cyntaf, mae ysgoloriaeth bellach yn cael ei gynnig, wedi ei anelu at bobl o bob oedran sydd â diddordeb astudio am radd BA mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn ysgoloriaeth o £1,000 yn flynyddol dros gyfnod o dair blynedd. Byddent hefyd yn cael cynnig y cyfle i wneud chwe wythnos o brofiad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Estyniad yw'r fenter newydd hon o'r bartneriaeth a sefydlwyd dwy flynedd yn ôl gydag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, gydag ysgoloriaeth yn cael ei gynnig i fyfyrwyr chweched dosbarth ar draws Cymru.
Meddai'r Uwch Arolygydd Ray Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Heddlu Gogledd Cymru, "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus iawn i gynyddu'r nifer o staff sydd â Chymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol.
"Nod y prosiect ar y cyd yw cynyddu'r nifer o fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs gradd addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a all wedyn gysidro gyrfa gyda'r Heddlu wedi iddynt raddio.
"Yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae'n ofynnol arnom, fel corff cyhoeddus, i gynnig gwasanaethau dwyieithog. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yng Ngogledd Cymru rydym hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hyrwyddo prosiectau sy'n ehangu'r grwpiau sy'n cymryd rhan gan ddarparu cyfleoedd newydd yn yr iaith Gymraeg."
Meddai Gwenda Rhian, Tiwtor Mynediad ar gyfer y radd yn yr Ysgol Bolisi Cymdeithasol, "Mae'r profiad gwaith yn gyfle gwych i weld sut mae gwasanaeth argyfwng yn gweithredu, ac i ddysgu mwy am amrywiaeth y cyfleoedd gwaith heriol a boddhaol sydd ar gael."
Mae'r Brifysgol a'r Heddlu yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn yr Ysgoloriaethau i ddod i un o dri chyfarfod er mwyn darganfod mwy am y prosiect. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
• Dydd Mercher, 4 Mehefin rhwng 6.00pm a 7.30pm -- Ystafell S5 (ail lawr), Coleg Addysg ac Addysg Gydol Oes, Prifysgol Bangor, Dean St, Bangor
• Dydd Mawrth, 10 Mehefin rhwng 6.00pm a 7.30pm -- Ystafell D17, Coleg Meirion Dwyfor, Ffordd Ty'n Coed, Dolgellau
• Dydd Mercher, 18 Mehefin rhwng 6.00pm a 7.30pm - Llys Clwyd, Stad Ddiwydiannol Lon Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych

Nodiadau:
• Lansiwyd y cynllun ysgoloriaeth gwreiddiol yn y Brifysgol ym Medi 2006
• Cynigir pedwar ysgoloriaeth bob blwyddyn gan Heddlu Gogledd Cymru, pob un yn werth £1,000 y flwyddyn dros dair blynedd
• Mae'r cynllun newydd yn cael ei ymestyn ar gyfer pobl o bob oedran sydd â diddordeb datblygu gyrfa gyda Heddlu Gogledd Cymru

  • likes, 1 dislikes

Link to this comment:

Share to:
see all

All Comments (0)

Sign In or Sign Up now to post a comment!
Loading...
Alert icon
0 / 00Unsaved Playlist Return to active list
    1. Your queue is empty. Add videos to your queue using this button:
      or sign in to load a different list.
    Loading...Loading...Saving...
    • Clear all videos from this list
    • Learn more