Dilynwch y Llwybr Arwyddion Glas er mwyn cerdded drwy hanes.
Gallwch olrhain gwreiddiau Celtaidd y dref, o eglwys Illtud Sant a sefydlwyd 1500 o flynyddoedd yn ôl i Dŷ Plymouth, a fu unwaith yn rhan o fynachlog Geltaidd hynafol.
Roedd yr Eglwys yn sefydliad pwerus hyd Ddiddymiad Harri'r VIII ond mae adleisiau o'i chyfoeth a'i dylanwad blaenorol i'w gweld hyd heddiw, mewn adeiladau megis y Porthdy, mynedfa i un o'r ystadau a oedd yn eiddo i Abaty Tewksbury.
Fe welwch Neuadd y Dref, a sefydlwyd yn wreiddiol fel Llys Maenoraidd Normanaidd ac a ailadeiladwyd yn ddiweddarach o dan Arglwyddiaeth Jasper Tudor, hen ewythr Brenin Harri'r VIII, ddiwedd y 15fed ganrif ond y tu hwnt i'r tai mawreddog a'r cartrefi a adawyd gan deuluoedd amlwg, efallai mai'r Old White Hart sy'n datgelu'r wybodaeth fwyaf i ni am hanes drwy'r oesoedd.
Adeiladwyd yr Old White Hart ar ddiwedd y 1400au. Credir mai hwn oedd y cartref domestig cyntaf i gael ei adeiladu ar ôl i faenordy Treberfedd a Llanilltud Fawr gael eu chwalu yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Link to this comment:
All Comments (0)