Alert icon
We're changing our privacy policy. This stuff matters.  Learn more  Dismiss

Rhywun yn Rhywle (8) - Can i Gymru 2011 (1af)

Loading...

Sign in or sign up now!
Alert icon
Upgrade to the latest Flash Player for improved playback performance. Upgrade now or more info.
1,441
Loading...
Alert icon
Sign in or sign up now!
Alert icon

Uploaded by on Mar 6, 2011

Enw: Steve Balsamo ac Ynyr Roberts
Unawdydd: Tesni Jones
Cân: Rhywun yn Rhywle
Genre: Pop
Byw:
Steve - Abertawe
Ynyr - Yn wreiddiol o Lanrug, rwan yng Nghaerdydd
Swydd:
Steve - Canwr a chyfansoddwr
Ynyr - Cerddor a Dylunydd Graffeg
Cefndir Cerddorol yn fras:
Steve - Perfformio ar draws y byd cerddorol mewn ffurfiau gwahanol. Chwarae mewn sioeau cerdd, fel artist unigol ac fel rhan o The Storys. Wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda rhai o'm hoff artistiaid, Robert Plant, Roger Daltrey, Elton John, Joe Cocker, Sam Brown, Madeleine Peyroux a Katie Melua i ollwng ambell i enw.
Ynyr - Aelod o'r grŵp Brigyn
Dylanwad hoffwn i gael ar y gynulleidfa:
Steve - Rwy'n credu bod caneuon yn medru fod yn gweddnewidiol ac rwy'n gobeithio codi ysbryd y gynulleidfa gyda neges bositif a gref y gân. Mae gen bawb rhywun yn rhywle.
Ynyr - Fe hoffwn i'r gynulleidfa bleidleisio i'r gân i ennill.
Neges tu ôl i'r gân:
Mae "Rhywun yn rhywle" yn gân amserol iawn, yn gân am obaith, am gadw ffydd a peidio rhoi'r gorau i ddilyn breddwydion.
Dylanwadau cerddorol ar fy nghyfansoddi:
Steve - Rwyf wrth fy modd gyda chyfansoddwyr eiconig. Pawb o'r Beatles, Neil Finn, Shawn Colvin, Jackson Browne, The Eagles, Elton John, Tom Waits, Seal, Springsteen, Marvyn Gaye... gormod i grybwyll a gweud y gwir. Mae cân dda yn gân dda!
Ynyr - Cymru, teulu, ffrindiau neu rhywbeth diddorol wnai glywed ar y radio!
Yr hiraf dwi 'di treulio'n cyfansoddi cân erioed yw...
Ynyr - Dwi'n cofio cael y syniad am y gân "Cowbois" yn 2003, a mi gymerodd hi tan 2010 i mi ei orffen hi'n iawn wedi i mi berswadio fy ffrind Lowri Mair i'w chanu hi!
Pam ceisio am Cân i Gymru?
Ynyr - Dwi'n ffan mawr o'r gystadleuaeth mae hi wir yn gyfnod cyffrous pob tro dwi yn cystadlu (dyma'r 3ydd tro). Dwi'n hoff iawn o gyfansoddi a chyd-weithio gyda cerddorion eraill, a mae 'Cân i Gymru' yn ffordd wych o neud hynny.
Hoff gân fuddugol y gystadleuaeth erioed?
Ynyr - Twll Triongl gan Hefin Huws
CD olaf wnes i brynu oedd:
Steve - Robert Plant Band of Joy
Ynyr - The Joy Formidable - The Big Roar
Y peth cyntaf fyddwn i'n prynu gyda'r wobr fyddai:
Steve - Taith i Baris i'm merch pum mlwydd oed Issy, iddi gael gweld Tŵr Eiffel. Mae hi mewn ysgol Gymraeg, ac ar daith ddiweddar i Ffrainc roedd hi wrth ei bodd yn ceisio siarad yr iaith. Mae hi hefyd yn ddwl am gregyn gleision!
Ynyr - Tocyn i Iwerddon, ar gyfer perfformio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Category:

Music

Tags:

License:

Standard YouTube License

  • likes, 1 dislikes

Link to this comment:

Share to:
see all

All Comments (0)

Sign In or Sign Up now to post a comment!
Loading...

Alert icon
0 / 00Unsaved Playlist Return to active list
    1. Your queue is empty. Add videos to your queue using this button:
      or sign in to load a different list.
    Loading...Loading...Saving...
    • Clear all videos from this list
    • Learn more