Bydd ASE Plaid Cymru Jill Evans yn croesawu aelodau'r Urdd i Frwsel i gyflwyno eu neges heddwch ac ewyllys da blynyddol sydd yn canolbwyntio ar thema'r amgylchedd a newid hinsawdd eleni.
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn draddodiad blynyddol sy'n dyddio yn ôl i 1922 pan wnaeth plant Cymru anfon eu neges ewyllys da i'r byd am y tro cyntaf. Dathlir Diwrnod Heddwch ac Ewyllys Da yn Nghymru yn swyddogol ar 18 Mai pan caiff y neges ei gyflwyno yng Nghymru.
Bydd y grwp hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Jill yn ogystal â chael gwylio pwyllgor seneddol.
Link to this comment:
All Comments (0)