www.cynulliadcymru.org
Gwahoddir aelodaur cyhoedd i ddweud eu dweud am ddwr mewndirol Cymru pan fydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn teithio o amgylch Cymru'r wythnos hon.
Bydd bws Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Betws-y-coed, Wrecsam, Caerfyrddin a Merthyr Tudful ar ddydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21Tachwedd.
Ar y bws fydd Mick Bates AC, cadeirydd y Pwyllgor, a fydd yn gwrando ar dystiolaeth ym Metws-y-coed gydag aelod arall or Pwyllgor, Brynle Williams AC. Bydd yng nghwmni Lesley Griffiths AC yn Wrecsam, cyn symud ymlaen i Gaerfyrddin.
Bydd Mike German AC ar gael ym Merthyr Tudful.
Mae amserlen y daith i gasglu tystiolaeth fel a ganlyn:
Dydd Gwener 20 Tachwedd Gwesty Gwydyr, Ffordd Caergybi, Betws-y-coed rhwng 11.30 a 12.30
Aelodaur Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC a Brynle Williams AC
Dydd Gwener 20 Tachwedd Sgwâr y Frenhines, Wrecsam rhwng 16.00 a 17.00
Aelodaur Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC a Lesley Griffiths AC
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd Sgwâr Caerfyrddin rhwng 9.30 a 10.30
Aelod Cynulliad yn bresennol: Mick Bates AC
Dydd Sadwrn 21 Tachwedd Maes parcio swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Merthyr Tudful rhwng 14.00 a 15.00
Aelod Cynulliad yn bresennol: Mike German AC
All Comments