Neithiwr yn Neuadd Mynytho daeth 200 o bobol at eu gilydd i lansio llyfr newydd Pen Llyn Harri Parri. Mae'r llyfr clawr caled yn gyfuniad o eiriau yr awdur Harri Parri a'r ffotograffydd Mike Harrison ac mae'n cofnodi bywyd, pobol a golygfeydd Llyn. Daeth y syniad i gyhoeddi llyfr ar ol i Cwmni Da ffilmio cyfres Pen LLyn Harri Parri ar gyfer S4C gyda Gwasg Y Bwthyn yn cyhoeddi.
Ar y noson dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, Dylan Huws fod y fenter yn bartneriaeth greadigol gwerthfawr gyda'r llyfr yn brawf o beth sy'n bosib i'w gyflawni. "Mae lle i gwmniau teledu, cyhoeddwyr ac awduron i gyd-weithio i wneud y gorau o gyllidebau ac adnoddau ei gilydd. Mae'r llyfr wedi ei ddylunio i'r safon uchaf ac mae Cwmni Da yn hynod falch o'r bartneriaeth hefo Gwas g Y Bwthyn, mawr obithiaf y bydd prosiectau eraill yn deillio o'r cyd-weithio yma"
Link to this comment:
All Comments (0)