Dewch am dro i fyd hudolus Morgan Wyn!
Y Llyfr Stori Pedair stori sydd yn ein cludo i fyd dychymyg Morgan Wyn. Rhwng cloriau lliwgar ei hoff lyfr cawn gwrdd â chawr caredig, hedfan rhwng y sêr gyda Nain Aberdaron, cyn glanio ar blaned ryfedd. Yna, yn ôl adref at Mam a Dad, lle mae syrpreis arbennig yn disgwyl Morgan Wyn.
Y CD-ROM Cyfres o weithgareddau difyr i ddatblygu sgiliau iaith. Mae Morgan Wyn, Plant y Cnau a chymeriadau planed y llythrennau yn siwr o ddifyrru'r plant wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Y sgiliau a dargedir yw'r llythrennau, trefn yr wyddor, ansoddeiriau, gofyn cwestiynnau, trefnu brawddegau, enwau priod, yr arddodiaid a'r berfau.
Y Llyfr Gweithgareddau Syniadau, wedi eu seilio ar y straeon, am weithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth i ddatblygu gwybodaeth o ramadeg Gymraeg, sgiliau llafar, sgiliau creadigol a sgiliau sylwi'r disgyblion. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys taflenni gweithgaredd du a gwyn sydd yn addas i'w llungopïo.
Pwnc: Cymraeg
Ystod Oedran: 4-7
Cyfnod Allweddol: Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Sylfaen
Iaith: Cymraeg
Systemau: Windows 98, Windows XP, Windows ME
Anghenion * 64MB RAM * Internet Explorer 5.5+
All Comments