Uploaded by ysgolbromyrddin1 on Jun 28, 2011
Taith y tri Copa Bro Myrddin 2011
Ar ddydd Iau Mehefin 23ain aeth carfan o ddisgyblion blwyddyn 12 ati i gwblhau taith y tri copa yn llwyddiannus. Roedd cyflawni taith o'r fath yn dipyn o her, ond dyna yn union a wnaeth 28 disgybl a sawl aelod o staff. Roedd y daith yn cynnwys cerdded i gopa Pen y Fan, Cader Idris a'r Wyddfa o fewn 24 awr. Dyma daith oedd yn gofyn am frwdfrydedd a dyfalbarhad, heb y rhain, fe fyddai pawb wedi methu.
Dechreuwyd y daith am 7 o'r gloch ar fore dydd Iau gyda phawb yn hanner cysgu ac yn nerfus am yr hyn oedd yn eu hwynebu. Wrth gyrraedd Pen y Fan, roedd pawb yn awyddus i gyrraedd y brig, ac er dyma'r copa isaf o'r tri, yn 823 metr o uchder, nid gwaith hawdd oedd cyrraedd y brig, yn enwedig gyda'r niwl isel. Cadarnhaodd yr athrawon wrth i ni gwblhau Pen y Fan mai ni oedd y grŵp cyflymaf ers blynyddoedd, er bod sawl un yn teimlo'n hynod o flinedig ar ôl dringo'r mynydd.
Yn ôl ar y bws mini wedyn am daith dair awr i Ogledd Cymru i ddringo'r mynydd nesaf, yr un mwyaf anodd yn ôl yr athrawon, Cader Idris. Roedd y mynydd yn 893 metr uwchben lefel y môr a llwyddodd ambell aelod o'r grŵp ei gwblhau mewn amser nodedig o 2 awr a chwarter. Roedd y daith yn un fentrus ac anturus tu hwnt wrth i ni gerdded ar lwybr gyda chwymp o 200 metr lawr ochr y clogwyni.
Wrth deithio i'r hostel, cafwyd sioc wrth ddarganfod nad gwesty 5 seren oedd yn aros amdanom, ond gwesty heb unrhyw seren! Er hyn, daeth cwsg anesmwyth ac yna her copa uchaf Cymru -- Yr Wyddfa! !
Roedd pawb yn amlwg wedi blino o'r diwrnod blaenorol, ond gwnaeth pawb eu gorau glas wrth ddringo'r mynydd oedd yn 1085 metr o uchder. Roedd wir yn sialens ond wrth weithio fel grŵp a chymell ein gilydd, cyrhaeddodd y disgyblion a'r staff gopa'r mynydd mewn amser da er mwyn cael amser i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd ysblennydd yn y caffi.
Bu'r grŵp yn lwcus gyda'r tywydd, arhosodd yn sych am y ddau ddiwrnod cyfan. Fe wnaeth pawb fwynhau'r profiad gwych a roddwyd iddynt gan yr adran chwaraeon a theimlai pawb falchder mawr yn eu camp. Diolch i'r holl athrawon am eu cwmni ar y daith ac yn enwedig i Mr Hefin Elias am drefnu'r digwyddiad.
-
0 likes, 1 dislikes
4:35
Learn Welsh // Lesson Two - Counting from 0-10 & Days of the Weekby CauDyGegDiolch177 views
8:10
Trip America Bro Myrddin 2011by CerithGlyn161 views
2:37
DONDE ESTABAS TU ...angeles del infierno en vivo 2011!!!by TheTransmetalico126 views
4:48
Ysgol Bro Myrddin Diwrnod Blasu Tsieineaidd 12/10/2011by ysgolbromyrddin1385 views
3:49
Only Men Aloud Live And Let Dieby OMBA122692 views
2:36
Disgyblion Bro Myrddin vs Only Men Aloudby ysgolbromyrddin1308 views
6:50
Trip America Bro Myrddin 2010by rubybreeze94561 views
2:11
Ysgol Bro Myrddin - Brwydr y Llysoedd 2005!by ysgolbromyrddin1289 views
5:03
Ffarwelio 6ed Ysgol Bro Myrddin 2011by ysgolbromyrddin1500 views
3:48
Carmarthenshire Mountain Biking Final Competition with Matthew Pageby SCW448349 views
5:14
Boom De Ya Dah- Bro Myrddinby rhyshuw19,476 views
2:36
Cor y Byd 2009 - Ysgol Gerdd Ceredigionby aagee813,383 views
14:27
2 Arwel Ellis Owenby accolades201152 views
5:47
Talent Bro Myrddinby rhyshuw11,873 views
0:46
Chin in the net, beastby EdwardDaniel144 views
3:23
Bro Myrddin - Eist Llys 2011by ysgolbromyrddin119 views
1:47
Bro Myrddin - Hysbys Eisteddfod Ysgol 24/2/2012 #yggbmby ysgolbromyrddin1100 views
7:37
Cerddorfa Ysgol Bro Myrddinby SianElin100403 views
9:45
Ysgol Bro Myrddin - Y dyddiau cynnar... 1978by ysgolbromyrddin1264 views
1:19
Ysgol Gyfun Bro Myrddinby worthalot2888 views
- Loading more suggestions...
Link to this comment:
All Comments (1)