Uploaded by northwalespoliceTV on Aug 4, 2009
Bydd Cynllun Gwarchod Ffermydd Meirionnydd yn fwy clyfar byth wrth i wasanaeth neges destun SMS newydd gael ei gyflwyno.
Credir mai hwn ywr gwasanaeth cyntaf oi fath yn y wlad. Bydd negeseuon testun yn rhoi gwybod i aelodau Cynllun Gwarchod Ffermydd Meirionnydd am unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal. Dylent dderbyn y negeseuon mewn eiliadau.*
Maer fenter yn cael ei lansio heddiw (Dydd Llun, 3 Awst) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gan yr Arolygydd Ardal Meirion Ellis. Cefnogir y fenter gan NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru. Fei cefnogir hefyd gan Fforwm Diogelur Gymuned Meirionnydd a Chyngor Gwynedd.
Mae cannoedd o ffermydd yn ardal Meirionnydd, a bydd y Gwasanaeth Neges destun fer (SMS alert text), sydd wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth 3Cubed Cyf, yn ein galluogi i anfon negeseuon pwysig i unigolion yn syth - os ydynt yn aelodau or Cynllun Gwarchod Ffermydd, meddair Arolygydd Ellis.
Maer Cynllun Gwarchod Ffermydd mewn bodolaeth ers dipyn o flynyddoedd a bydd y ffordd yma o anfon neges yn gwneud y gorau or dechnoleg newydd. Mae hefyd yn cynorthwyor aelodau i fod yn warchodwyr y gymuned. Unwaith y cawn wybod am drosedd fe ddylai hefyd ein cynorthwyo i ddal y rhai syn gyfrifol yn gyflym.
Maer gwasanaeth neges destun SMS yn gweithio mewn ffordd syml. Pan maer heddlu yn derbyn gwybodaeth am ymddygiad amheus e.e. unigolyn yn ceisio torri i mewn neu gerbyd amheus, mae swyddogion yn archwilio eu cronfeydd data ac yn anfon neges destun iw haelodau cyswllt gyda gair o gyngor neu rybuddion sylfaenol.
Dylair neges rybuddior aelod am unrhyw duedd troseddol neu ymddygiad amheus, ychwanegar Arolygydd. Y gobaith yw os ydynt yn gweld ymddygiad tebyg yna y byddent yn rhoi gwybod innin uniongyrchol er mwyn ein cynorthwyo gydan hymchwiliadau a all yn y pendraw arwain at arestiadau cyflym.
Meddai Huw Alun Evans, Cadeirydd NFU Cymru Meirionnydd, Mae llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar ffermwyr lleol, eu cefnogaeth au gwybodaeth. Rydym angen cyn gymaint ohonynt ag syn bosib i fod yn rhan or cynllun. Mae angen sefydlu llif o wybodaeth ddeuffordd gydar heddlu yn cael gwybod am unrhyw amheuon a throseddau fel bod patrymau o droseddu yn cael eu hadnabod ar rhai a fyddai efallai yn dargedau posib yn derbyn cyngor a rhybudd.
Ychwanegodd, Maer Cynllun Gwarchod Ffermydd yn gynllun rhad ac am ddim. Bydd y cynllun yn rhoi sylw i faterion fel parcio anghyfreithlon oddi ar y ffordd a dwyn da, yn ogystal â dwyn o iard y fferm, neu or ffermdy.
Huw T Jones yw Swyddog Sirol FUW Meirionnydd, dwedodd: Bydd y cynllun diweddaraf yma yn gwella'r cyfarthrebu rhwng yr heddlu a'r gymuned amaethyddol, ac yn sicr mae hyn yn beth da. Y gobaith pendant yw y bydd yn gymorth i ddal troseddwyr, ac hefyd yn y pen draw arwain i lai o droseddu yn y lle cyntaf. Anogaf ffermwyr i gofrestru drwy gysylltu a ni.
Credir mair fenter hon ywr cyntaf oi math i gael ei defnyddio ymysg y gymuned ffermio. Mae cynllun tebyg ar gyfer perchnogion carafannau eisoes wedi cael ei sefydlu yn yr ardal.
Cynhyrchwyd taflenni yn hyrwyddor fenter, ac feu dosberthir o amgylch ardal Meirionnydd gyda chymorth NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Chyngor Gwynedd.
(* yn ddibynnol ar y darparwr ffôn symudol)
-
1 likes, 0 dislikes
7:28Ffermio 24/01/2011 - Peiriannau Harry Wilson / ...by ffermio127 views
3:52Ffliw Moch - Cymraegby ffermio124 views
6:35Bwletin Ffermio 17/04/2009 - Arwyddion enwau ff...by ffermio246 views
0:48North Wales Police are CORRUPTby harveyblue69713 views
7:19Ffermio 31/01/2011 - Saethu Ffesantod / Pheasan...by ffermio1,826 views
1:39Ffermioby Evzy13651 views
6:38Ysgol Y Traeth Rhan 2, Cymraegby DulasLtd66 views
5:34Jess - Ysbryd y Dyddby gofodwr1,058 views
3:05Catrin Mair Parry Singing- Bara Angylion Duw-Pa...by MissMusic4Ever2010592 views
2:19Llandrillo Police Studies Open Dayby northwalespoliceTV2,714 views
5:38BEAM2009.mp4by musictraditionswales728 views
1:14Dyn yn Cerdded yn Gyflymby robaij78 views
2:17Fit for purpose?by northwalespoliceTV10,075 views
0:50ALF Cofi Drwg Episode 3: Chwarae efo Moiby Flange197435,664 views
8:20North wales police Mold take an old computer co...by edtheball693,524 views
5:21YFC Lambby ffermio50 views
0:48North Wales Police pull bikers MCN MotorCycleNe...by bigaldupes6,909 views
4:19RAW VIDEO ARMED POLICE ATTACK TEENAGER IN WALES...by edtheball695,160 views
0:12North Wales Police - Llanwrst - 58 plate Ford F...by policeblue9993,671 views
3:02Policing Pledgeby northwalespoliceTV1,020 views
- Loading more suggestions...
Link to this comment:
All Comments (0)