Added: 4 months ago
From: WelshyChris
Views: 168
Sort by time | Sort by thread (beta)

Link to this comment:

Share to:

All Comments (8)

Sign In or Sign Up now to post a comment!
  • Yn ôl fy mhrofiad, mae llawer iawn o Gymry nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhan o'r 'byd Cymraeg'. Y broblem yw bod cyn lleied o siaradwyr, ac felly does dim diwylliant eang, bywiog a chroesawgar fel sy'n dod gyda'r Saesneg er enghraifft, yn enwedig ar y wê.

  • Cymraes dw i o ardal Seisnig iawn yng Nghymru a dwi'm yn teimlo fel fy mod i'n perthyn i'r byd Cymraeg chwaith. Mae'n biti oherwydd dwi wrth fy modd gyda'r iaith ond dwi jyst rioed di neud ffrindie Gymraeg nag unrhywbeth fel'na. Ma'n drist clywed bo rhywun arall yn teimlo'n debyg imi, ond o leia byddet ti dal i neud flogs. Dwi angen neud mwy hefyd ond dwi di colli ffydd, fel petai xD

  • Just saw this on quixoticquisling

    "Yn fy mhrofiad i, yn y brifddinas, siaradwyr Cymraeg rhugl ydy’r pobol sydd yn atal ymdrechion i helpu’r ‘di-Gymraeg’ i fod yn [D] Cymraeg. Gyda thipyn bach mwy o amynedd bydd mwy o [D] Cymraeg yn parhau ar yr antur ieithyddol. Dyw e ddim yn helpu o gwbl i feddwl bod nhw yn dod mewn rhyw fath o grŵp statig di-Gymraeg achos genedigaeth neu prinder o gyfleoedd."

    Sums up "y byd Cymraeg" imo.

    Vaughan Roderick also has blog about this on the BBC website.

  • Mae 'na fwy i'r Gymraeg na'r "byd Cymraeg" (beth bynnag yw hynny wrth gwrs...) sy'n bodoli yng Nghaerdydd. Rwy'n mwynhau eich fideos ond peidiwch â meddwl eich bod chi'n "achub y Gymraeg" trwy wneud pethau fel cofnideo. Hefyd ambell waith rydych chi'n gallu bod yn drahaus iawn ac mae’ch sylwadau am y Cymry Cymraeg, y Cymoedd ac ati yn gallu fod yn hynod o nawddoglyd ar brydiau.

  • @crwbandude Pryd dwedais i mod i'n achub y Gymraeg? Dwi ddim yn cofio dweud hynny erioed, oni bai cymryd y pis oeddwn i.

  • @WelshyChris Wel rydych chi'n actio fel 'na weithiau. Does dim pwynt roi'r bai ar Gymru a'i phobl yn unig. Mae 'derbyniad' yn broses cymhleth ac mae agwedd yn bwysig. Serch hynny, rwy'n credu eich bod chi'n berson digon hoffus ar y cyfan ac rwy'n mwynhau'r fideos 'ma.

  • Neis gweld ti'n cofnideo eto! re: ddim ffitio yn y byd Cymraeg, dwi'n aml deimlo bo fi'm yn ffitio chwaith, a dwi yn Gymraeg, so go figure. Ella bo Cymru'n rhy clique-y?

  • @MsCochan Diolch. Cofiwch 'mod i'n cofnideo'n feunyddiol yn Saesneg ar fy sianel arall: ChrisCopeful. Yn Gymraeg, efallai y gwnaf i gofnideo yn wythnosol. Efallai. Mae'n dibynnu ar yr ymateb, os oes ymateb, ac yn y blaen.

Loading...
Alert icon
0 / 00Unsaved Playlist Return to active list
    1. Your queue is empty. Add videos to your queue using this button:
      or sign in to load a different list.
    Loading...Loading...Saving...
    • Clear all videos from this list
    • Learn more